Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 8 Chwefror
2017
Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/4082
Gweld Cofnod y Trafodion
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 1, 5 a 9 gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.21
I Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith:
Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinewfwr): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau a yw, bellach, yn bwriadu cefnogi datblygu Cylchffordd Cymru, yn dilyn adroddiadau bod yr Heads of the Valleys Development Company wedi sicrhau'r cyllid preifat sydd ei angen ar gyfer ei adeiladu?
Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau.
Dechreuodd yr eitem am 14.31
Gwnaeth Darren Millar ddatganiad yn nodi 300 mlynedd ers geni
William Williams, Pantycelyn
Gwnaeth Mike Hedges ddatganiad ynglŷn â sut mae ymddiriedolaeth cefnogwyr Dinas Abertawe yn rhoi llais i gefnogwyr pêl-droed.
Gwnaeth Janet Finch Saunders ddatganiad yn nodi 65 mlynedd ein Brenhines ar yr orsedd.
Gwnaeth Dai Lloyd ddatganiad yn nodi 300 mlynedd ers geni’r emynwr William Williams, Pantycelyn ddydd Sadwrn.
Dechreuodd yr eitem am 14.38
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM6222 Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil yn ymwneud â sgiliau achub bywyd.
2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:
a) creu hawl statudol i bobl gael addysg a hyfforddiant sgiliau achub bywyd sy'n briodol i'w hoedran ar amrywiol adegau yn eu bywydau
b) llunio cyfrifoldebau statudol i sicrhau:
i) bod hyfforddiant sgiliau achub bywyd yn cael ei ddarparu;
ii) bod diffibrilwyr yn cael eu darparu mewn lleoliadau priodol;
iii) bod unigolion sydd wedi cael hyfforddiant achub bywyd ar gael mewn swyddi allweddol mewn gwasanaethau cyhoeddus (yn hytrach na pherson cymorth cyntaf penodedig); a
iv) bod deunyddiau cymorth cyntaf sylfaenol ar gael i'r cyhoedd mewn adeiladau cyhoeddus, ac nid ar gyfer y staff yn unig.
c) creu ffyrdd o wella a gorfodi o ran yr uchod.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
33 |
17 |
3 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 15.04
NDM6230 Lynne Neagle (Torfaen)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 'Ba fath o wasanaeth ieuenctid y mae Cymru ei eisiau? Adroddiad yr ymchwiliad i Waith Ieuenctid' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Rhagfyr 2016.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 15.55
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6229 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae addysg bellach a sgiliau galwedigaethol yn eu gwneud i economi Cymru, yn arbennig yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i gylch cyllido tair blynedd i golegau addysg bellach ar lefel deg, er mwyn galluogi gwaith cynllunio mwy cynaliadwy a diogelu'r sgiliau sydd eu hangen i wneud economïau lleol yn wydn.
3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi cyfran sylweddol o'r arian
y mae'n disgwyl ei arbed, o ganlyniad i newidiadau i'r cymorth a
roddir i fyfyrwyr addysg uwch, yn y sector addysg bellach, gan
gynnwys buddsoddi cyfran yn y sgiliau lefel uwch a ddarperir mewn
lleoliad addysg bellach a chyfran yn y ddarpariaeth Gymraeg.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
18 |
0 |
35 |
53 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1.
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y cyfraniad pwysig y mae sefydliadau Addysg Bellach ac Addysg Uwch yn ei wneud i gefnogi cyfleoedd economaidd ac yn nodi'r rôl arweiniol bwysig sydd ganddynt yn rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru.
2. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod llwybrau addysg galwedigaethol ac academaidd yn cael parch cydradd.
3. Yn cydnabod pa mor bwysig yw cyfleoedd llawn amser a rhan-amser o ansawdd uchel i addysg ôl-16 yn y ddwy iaith, sy'n gallu cefnogi dysgwyr o bob oed a gwasanaethu economi Cymru.
4. Yn croesawu'r £30m o gyllid ychwanegol a ddarperir ar gyfer Addysg Bellach ac Addysg Uwch yng nghyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18.
5. Yn nodi'r gwaith a wneir gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â rhanddeiliaid ledled Cymru drwy Adolygiad Diamond ac Adolygiad Hazelkorn i ddarparu sylfaen gadarn ar gyfer cyllido, rheoleiddio a llywodraethu addysg ôl-16 yng Nghymru.
6.
Yn galw am ddiwedd i bolisi cyni niweidiol Llywodraeth y DU sydd
wedi cael effaith negyddol ar yr holl wasanaethau cyhoeddus ar
draws y DU, gan gynnwys addysg uwch ac addysg bellach.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
26 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Derbyniwyd gwelliant 1, felly cafodd gwelliant 2 ei
ddad-ddethol
Gwelliant 3.Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i weithio o fewn ysbryd Hazelkorn er mwyn
dileu llawer o'r gystadleuaeth ddiangen sydd wedi dod i'r amlwg
mewn addysg ôl-16 yn ddiweddar, a datblygu llwybrau dysgu
ôl-16 cliriach a mwy hyblyg.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
35 |
0 |
19 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM6229 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y cyfraniad pwysig y mae sefydliadau Addysg Bellach ac Addysg Uwch yn ei wneud i gefnogi cyfleoedd economaidd ac yn nodi'r rôl arweiniol bwysig sydd ganddynt yn rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru.
2. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod llwybrau addysg galwedigaethol ac academaidd yn cael parch cydradd.
3. Yn cydnabod pa mor bwysig yw cyfleoedd llawn amser a rhan-amser o ansawdd uchel i addysg ôl-16 yn y ddwy iaith, sy'n gallu cefnogi dysgwyr o bob oed a gwasanaethu economi Cymru.
4. Yn croesawu'r £30m o gyllid ychwanegol a ddarperir ar gyfer Addysg Bellach ac Addysg Uwch yng nghyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18.
5. Yn nodi'r gwaith a wneir gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â rhanddeiliaid ledled Cymru drwy Adolygiad Diamond ac Adolygiad Hazelkorn i ddarparu sylfaen gadarn ar gyfer cyllido, rheoleiddio a llywodraethu addysg ôl-16 yng Nghymru.
6. Yn galw am ddiwedd i bolisi cyni niweidiol Llywodraeth y DU sydd wedi cael effaith negyddol ar yr holl wasanaethau cyhoeddus ar draws y DU, gan gynnwys addysg uwch ac addysg bellach.
7.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio o fewn ysbryd Hazelkorn er
mwyn dileu llawer o'r gystadleuaeth ddiangen sydd wedi dod i'r
amlwg mewn addysg ôl-16 yn ddiweddar, a datblygu llwybrau
dysgu ôl-16 cliriach a mwy hyblyg.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
0 |
17 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dechreuodd yr eitem am 16.59
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6232 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU a'r effaith a gaiff ar Gymru.
2. Yn cydnabod y gwaith rhynglywodraethol i ddatblygu Bargen Dwf Gogledd Cymru.
3. Yn credu y gall dinas-ranbarthau chwarae rhan werthfawr o ran sicrhau gwelliannau economaidd i gymunedau ledled Cymru.
4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda rhanddeiliaid allweddol
i lywio twf economaidd ym mhob rhan o Gymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
37 |
54 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1.
Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi'r angen i gryfhau perfformiad economi gogledd Cymru.
2. Yn cydnabod pa mor bwysig yw buddsoddi mewn seilwaith i hyrwyddo economi gogledd Cymru.
3. Yn credu bod angen i unrhyw Strategaeth Ddiwydiannol gan Lywodraeth y DU fynd i'r afael â diffyg buddsoddi digonol ers blynyddoedd yn seilwaith Cymru.
4. Yn galw am raglen gyson o welliannau i goridor yr A55, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i gefnogi'r bwriad i drydaneiddio rheilffordd arfordir gogledd Cymru.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi ei Strategaeth Economaidd ar gyfer Cymru, a fydd yn nodi sut y gall gogledd Cymru ddatblygu'n bwerdy economaidd ei hun gan gydweithredu hefyd â phwerdy gogledd Lloegr i hyrwyddo gweithgarwch economaidd trawsffiniol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
9 |
0 |
45 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod Papur Gwyrdd Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU wedi'i gyhoeddi.
2. Yn nodi bwriad Llywodraeth y DU i ddatblygu polisi diwydiannol mwy gweithredol, ond yn gresynu at ei methiant i gefnogi'r diwydiant dur ar draws Cymru a'r DU dros y flwyddyn ddiwethaf.
3. Yn nodi cynllun Llywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth drawsbynciol ar gyfer cefnogi twf economaidd yn nes ymlaen yn y gwanwyn.
4. Yn cydnabod y gwaith rhwng llywodraethau sydd wedi'i wneud gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch Bargen Ddinesig Caerdydd ac Abertawe a hefyd Bargen Dwf Gogledd Cymru.
5. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i gydweithio â Llywodraeth y DU ynghylch pob maes sydd o ddiddordeb i Gymru a'r DU er lles busnesau ac economi pob rhan o Gymru.
6.
Yn galw ar Lywodraeth y DU i ymgysylltu'n briodol ac fel rhan o
bartneriaeth gyfartal ynghylch materion diwydiannol trawsffiniol,
gan barchu'n llwyr y setliad datganoli.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
26 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 2.

25 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dechreuodd yr eitem am 18.04
Dechreuodd yr eitem am 18.09
NDM6231 Lynne Neagle (Torfaen):
Meithrin gwydnwch emosiynol yn ein plant a phobl ifanc.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.03
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 14 Chwefror 2017